amdanaf i.....
Erbyn yr oeddwn yn 7, dechreuais wersi piano pan oeddwn yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Gynradd pan ofynnodd yr athro rhyw ddiwrnod a fyddai rhywun â diddordeb mewn cymryd gwersi telyn.
Cyn hynny nid oeddwn wir wedi clywed na gweld neb yn canu'r delyn felly roeddwn yn awyddus i wybod mwy. Wedi cyrraedd adref gofynnais i mam os gallwn ddechrau cael gwersi. Nid oedd ei hymateb yn bositif iawn gan ei bod yn ymwybodol o gost prynu telyn a'r "sbort" o symud offeryn mor fawr ar hyd y lle. Nid oeddwn i fynd i adael i hynny fy rhwystro, felly dyma edrych am yr arian yn fy nghadw mi gei a llwyddo i dalu am ddwy wers. Erbyn hyn mae mam yn falch iawn i mi fod mor bendant gan i'm pendantrwydd dalu ffordd gan olygu bellach rwyf yn perfformio gyda'r delyn ac yn dysgu eraill i ganu'r offeryn arbennig hwn. Yn ystod fy mlynyddoedd yn yr ysgol bûm
yn cymryd arholiadau gyda'r Associated Board of the Royal Board of Music (ABRSM) a dros 20 mlynedd bellach rwy'n dal i fwynhau canu'r delyn a'r piano.
Trwy gael fy magu yn Abergwaun rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael fy moddi yn niwylliant a phrydferthwch Sir Benfro a Chymru. Ar hyd y blynyddoedd mae fy mamwlad wedi ysbrydoli fy repertoire ac yn adlewyrchu'r amrywiaeth o ddarnau, o ganeuon traddodiadol Cymreig i gerddoriaeth gyfoes a chlasurol.